Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Caradog (Drama).djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AFARWY:
Ha! Pwy yma sy'n ymguddio
Y duwiau drugarhaont! Genwissa yw!
Rhaid imi ffugio fel na'm hadwaen i![1]
Wel! Dyma 'sglyfaeth ryfel, onide!

GENWISSA:[2]
Ai ti yw Pennaeth y Prydeinwyr hyn?

AFARWY:[3]
Ti ddwedaist. Felly 'rwyf. A thi?

GENWISSA:
Genwissa, merch i Cesar ydwyf fi.

AFARWY:[4]
Merch Cesar, ie? Gwena'r duwiau arnaf!

GENWISSA:[5]
Na wna i'm niwed! Pridwerth mawr a gei
Gan Cesar am i'w ferch gael mynd yn rhydd.

AFARWY:
Cawn weled yn y man.[6] (Wrth Venutius.)
Wel, gefnder mwyn,
Rwy'n diolch iti am yr hyn a wnest.
Caradog ga ro'i diolch gwell iti.

VENUTIUS:
Nid wyf yn crefu unrhyw ddiolch gwell
Na gwneud fy rhan dros ryddid Prydain gu.

APARWY:
A gwnaethost hynny heddyw'n ddewr fel cynt.[7]
Urddasol gennad ddylai fyn'd ar frys
A'r newydd i Caradog ddarfod i
Ni heddyw daro llengoedd Cesar falch
Yn glin a borddwyd. Yntau wedi ffoi.

GENWISSA:
Gwae fi! O dywell ddydd!

AFARWY:
Fod Cesar yn ei wersyll yn ddiogel.

GENWISSA:[8]
I'r duwiau y bo'r diolch!

VENUTIUS:[9]
A'i ferch, y Dywysoges, yn garchares?


  1. Yn troi yn ol at Genwissa; ymaflyd yn ei llaw, a'i chodi ar ei thraed, gan siarad yn swrth wrthi.
  2. Mewn llais crynedig ofnus.
  3. Yn swrth iawn.
  4. Yn ddirmygus
  5. Yn ymbilgar
  6. Yn troi oddiwrthi at Venutius
  7. Yn troi, canfod Genwissa; mynd ati. Yna yn troi o'r neilldu mewn dychryn.
  8. Yn plethu ei dwylaw a chodi ei gwyneb tua'r nef
  9. Yn sisial, wincio, a chyfeirio at Genwissa