Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Fall. Ond dyma ben y bryn o'r diwedd, a hen wr llygad-lon wedi bod yn fy ngwylio'n dringo.

"Mi gewch ddiwrnod braf i weld y wlad heddyw," ebe’r hen ŵr a'm cyfeiriai o Harlech tua Glasynys, "mi fydd y dydd i gyd fel y pelydryn yna gyda hyn." A gwir a ddywedodd, cefais ddiwrnod poetha'r haf hwnnw. Y mae Harlech ar godiad tir serth, a rhaid cael un chwim iawn i ddod i fyny iddi o'r traeth heb golli ei wynt. Un stryd hir y tybiwn ei bod, o boptu i'r ffordd sy'n rhedeg hyd y bryniau, yn gyfochrog a glan y môr. Y mae'n lan, er nad oes adeiladau mawrion yn ei rhan hynaf. Hawdd gweled ei bod yn hen dref oddi wrth ei chastell ac amlder ei thafarnau. Trois ar y chwith, hyd ffordd Talsarnau, a chefais gwmni bardd am ran o'r ffordd. Toc gadewais y ffordd gysgodol sy'n rhedeg hyd fron y mynydd, a throais hyd lwybr i lawr i'r gwastadedd glas odditanaf. Ar ganol y gwastadedd gwelwn fryncyn yn codi, ac o bob tu iddo, — ar ochr y mynydd ac ar ochr y môr, — y mae amaethdy o'r enw Glasynys. Oddi ar ben y bryn y mae golygfa ardderchog ar fôr a mynydd. Ynys, mae'n ddiamau, oedd y bryn unwaith, ac yr oedd y gwastadedd yn fôr. Ar ein cyfer codai'r mynydd yn serth, gyda choed yn aml ar ei lethrau. Aml waith y bu Elis Wyn yn dringo i ael y mynydd