Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac y mae eglwys Llanfair rhyw ddwy filltir o Harlech i'r de. Bûm yn Llanfair hefyd, lle y gorwedd Elis Wyn mewn bedd dinod, bron anadnabyddus. Y mae'r daith o Harlech i Lanfair yn fwy digysgod na'r daith i Lasynys, ar wres neu ar gurlaw, ond nid yw'n llai hyfryd. Wedi tynnu i fyny’r rhiw oddi wrth y môr, a gadael yr hen gastell gwgus ar ein hol, trown ar y de.

Y mae mwy o Harlech i'w weled wrth fynd i Lanfair nag wrth fynd i Lasynys. Wedi cerdded drwy ystryd gweddol hir, deuir i lecyn dymunol iawn dan goed, ar gyfer prif westy'r lle. Y mae golwg brydferth iawn oddi yma drwy'r coed ar y môr sy’n mhell oddi tanodd, ac y mae pob trofa newydd ar y ffordd yn hyfrydwch. Creigiau, coed, mynydd, a’r môr, - nid oes braidd dy yn y cilfachau hyn heb olygfeydd o'i ffenestri y buasai cynllunydd palas brenin yn falch o honynt. Ond yn fuan iawn yr ydym yn gadael yr hen dref ar ein holau, ac yn teithio hyd ffordd deg ar y dibyn uwch ben y môr, a'r hen gastell du gwgus yn ein gwylied o'n hol.

Dyma ffordd y bu Bardd Cwsg yn ei cherdded filoedd o weithiau, ac y mae golygfeydd ei weledigaethau o'n hamgylch heddyw, er bod syniadau gwlad wedi newid llawer er yr adeg y bu yn ei cherdded ddiweddaf, tua chant a thrigain o flynyddoedd yn ôl.

Aml dro, y mae’n ddiamau, bu Elis Wyn yn