Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwelem ein ffordd ninnau'n ymdroelli dros y ffriddoedd a'r bryniau, drwy wlad o greigdir, dros y mynyddoedd oedd rhyngom a'r môr. Yr oedd anadlu'r awyr iach yno yn bleser,- yr oedd arogl grug a rhedyn arni. Yr oedd arnom eisiau bwyd er mai newydd fwyta oeddem. Gwyn fyd, ni a dybiem, y bobl sydd yn byw yn y fro iach hon.

Holasom y ffordd i'r Garreg Wen yng Ngarth Morthin, ac wedi dringo aml fryn serth cyraeddasom eglwys Treflys. Saif yr eglwys fechan hon yng nghanol caeau gwair, heb na thŷ na thwlc yn agos ati, a buom yn crwydro tipyn o'i hamgylch cyn darganfod llwybr troed i fynd ati. Y mae golwg newydd iawn ar yr eglwys ac ar y beddau; yr oedd y fynwent yn debycach i fynwent ar hanner ei gorffen nag i hen un. Gwelais lawer pennill ac englyn trawiadol. Dyma bennill oddi ar fedd merch Braich y Saint, —

"Gorffwysodd, gadawodd yr anial ar ôl,
Tu draw i'r Iorddonen y glaniodd;
A'r Iesu dderbyniodd ei hysbryd i'w gol,
Can's ffyddlon yw'r hwn a addawodd."

Dyma englyn, hefyd, am y Cristion,—

"Os tan y gist mae'r Cristion,neu—ei ddu fedd
Sydd fel man-blu'n union:
Mae rhyw fwynhad mawr fan hon
Yng nghlyw su engyl Seion."

Dyma sydd ar fedd Bardd Treflys,—