Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pentref, — plant tewion graenus fel hwy, — a chyda bod y cwestiwn dros fy ngwefusau, yr oedd eu cefnau oll tuag ataf, a llu o draed bychain yn cyflymu i lawr y llwybr hir sydd rhwng porth yr eglwys a drws y fynwent. A gadawyd fi'n unig ymysg y beddau.

Safle caer yw safle mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa, - saif ar fryncyn, nid yr uchaf yn y gymdogaeth, ond un o'r rhai uchaf. O'r porth sy'n wynebu ar y pentref rhed llwybr hir rhwng mangoed at ddrws yr eglwys,- adeilad newydd. Wedi cyrraedd hanner y llwybr, os edrych y teithiwr ar ei aswy, gwêl gofgolofn o wenithfaen,- nid un fwy na cholofnau ar filoedd o feddau dinod ym mynwentydd Cymru, ac arni'r geiriau, -

ER COF
AM
ANN GRIFFITHS,
DOLWAR FECHAN,
GANWYD 1776.
BU FARW 1806.

Nid oes Gymro fedr sefyll ger bedd Ann Griffiths heb deimlo ei fod ar ddaear sancteiddiaf ei fynyddoedd. Ac mor dawel ydyw'r fynwent! Ni chlywir sŵn ond su'r bladur wrth nofio trwy'r glaswellt draw,- y mae pob aderyn yn ddistaw ar y bore hafaidd heulog, ni chlywir sŵn y plant sydd yn yr ysgol lwyd gerllaw, prin