Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr Aran draw. Toc trown ar y de, a cherddwn dan goed sy'n taflu eu cysgodion dros y ffordd. Dyma'r "adwy wynt," a hen gapel y Methodistiaid wedi ei droi'n dai. Wrth y tai hyn, yn enwedig wrth y siop draw, digon tebyg y cewch rywun y gellwch dynnu sgwrs ag ef, os ydych yn hoff o ymgom. Hwyrach y tarwch ar hen ddiwinydd a'i bwys ar ei ffon. Hwyrach y cyfarfyddwch a rhywun bydol, - hen ŵr a gwallt fel nadroedd sonia wrthych am ddyfais newydd i wneud cribiniau, neu am ryfeddodau gwledydd pell. Hwyrach y cewch hen hanesydd i ddweud wrthych fel y byddem ni yn Llanuwchllyn yn byw yn yr hen oesoedd. Os na fydd neb yno, a bydd y lle heb neb yn yr haf weithiau, cerddwch ymlaen ar hyd y Gwaliau, ac wedi croesi'r bont cawn ein hunain yng nghwr y Llan, rhwng y fynwent a thai fu unwaith yn dŷ tafarn. Yn y fynwent honno, y tu hwnt i'r eglwys, gorwedd Ap Fychan hyd ganiad yr utgorn. Ac yn y tŷ tafarn hwnnw temtiwyd ef, pan yn laslanc tlawd, i yfed ei glased cyntaf o gwrw mewn cyfarfod beirdd.

Wedi gadael y Llan yr ydym yn dod i ffordd y Bala, ac yn cerdded yn ein blaenau ar hyd-ddi, hyd nes y down at y Bont Lliw a phentref bychan Pen y Bont. Cyn croesi'r bont yr ydym yn troi ar y chwith, ac yn cymeryd ffordd drol sydd yn ein harwain i gyfeiriad tarddle'r afon