Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond odid, nag a welsoch chwi; ac y mae aml un trahaus wedi gwingo dan ffrewyll awen chwerw'r llall.

Dan gyfarwyddyd dau nai Ap Fychan awn o amgylch y tŷ. Yn y pen uchaf iddo yr oedd tad Ap Fychan yn byw, darn sydd eto dan ei do brwyn. Dyma'r drws diaddurn o'r hwn y cerddodd Ap Fychan i'r byd gyntaf, i ymdrechu'n galed am ei damaid bara i ddechrau, ac i gyfrannu bara'r bywyd i lawer enaid newynog wedyn. Dacw'r ffenestr eto'n aros drwy yr hon y gwelodd oleuni dydd Duw gyntaf erioed rywbryd tua diwedd y flwyddyn 1809. Dyma'r lle y bu ei dad, - dyn duwiol, diwinydd, a llenor da, - yn ymladd yn galed yn erbyn yr amseroedd enbytaf welodd y llafurwr Cymreig, efallai, yn holl hanes ei wlad. Dacw'r mynyddoedd, y naill y tu hwnt i'r llall, y mynyddoedd sy'n ymddelwi yn enaid pob Cymro. Bûm yn meddwl lawer gwaith fod Ap Fychan, wrth ddarlunio ieuenctid Cadwaladr Jones, yn darlunio, - na, nid ei ieuenctid ei hun, - ond y peth ddymunasai'r bachgen tlawd fod. Yr oedd bywyd Cadwaladr Jones, "mab ffarm," yn fywyd yr hiraethai'r "hogyn cadw" am dano.

"Gallwn yn hawdd ddychmygu iddo dreulio llawer dydd teg, yn hafau dyddiau ei faboed, ar lan y nant sydd yn myned heibio i'r Deildref Uchaf, a'r afon Lliw, sydd yn golchi un ochr i ddôl a berthyn i'r tyddyn, yn chware, ac yn ceisio dal y pysgod gwylltion a heigient ynddynt. A gallwn farnu, yr un mor naturiol, ei