Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gydag inni gael golwg ar y wlad y tu hwnt i'r mynydd, caeodd gorchudd o wlaw am dani. Dechreuodd y gwlaw yrru dros y dyffrynnoedd, ac yr oedd y gwynt yn dolefain wrth ysgubo dros fryn a phant. Pe buaswn yn hollol ddieithr i'r wlad, tybiaswn mai dros ryw wastadedd mynyddig, heb ddim ond pyllau mawn a chrawcwellt ac ambell ddafad esgymun, yr oer anadlai'r awel. Ond yr oeddwn wedi cael golwg ogoneddus ar y wlad dan haul nawn y dydd cynt; a gwyddwn, oddi wrth emynau Williams, fod ei gartref mewn gwlad brydferth, —

Dyma'r man dymunwn drigo,
Wrth afonydd gloywon, llawn,
Sydd yn llifo o ddŵr y bywyd
O las fore hyd brydnawn,
Lle cawn yfed
Hyfryd gariad fyth a hedd.

Oddi wrth olygfeydd yr ardal hon y cafodd Williams ei liwiau i ddarlunio gwlad yr hedd, —

Mi welaf draw, o bell,
Baradwys hardd ei gwedd,
A phrennau llawer gwell
Yn perarogli hedd;
O hyfryd wlad, tu draw pob gwae,
Gwyn fyd gawn heddyw dy fwynhau.

Ond y mae'r gwynt yn dolefain, a'i sŵn fel sŵn cornchwiglen, ond ei fod yn fwy parhaus ac yn fwy lleddf. Daethom at le yr oedd yr afon a'r ffordd yn ymrannu'n ddwy. Troesom ni ar y