Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

[Y PARCH. JOHN BLACKWELL (Alun), genedigol o Sir Fflint. Offeiriad. Ganwyd ef yn 1797, bu farw yn 1840, yn 43 mlwydd oed. Claddwyd ef yn Manordeifi, Ceredigion.]

CAN GWRAIG Y PYSGOTWR.

(ALUN)

GOORPHWYS, dòn! dylifa'n llonydd,
Paid a digio wrth y creigydd;
Y mae anian yn noswylio :
Pa'm y byddi di yn effro?
Dwndwr daear sydd yn darfod-
Cysga dithau ar dy dywod.

Gorphwys, fôr! mae ar dy lasdòn
Un yn dwyn serchiadau 'nghalon;
Nid ei ran yw bywyd segur,
Ar dy lifiant mae ei lafur;
Bydd dda wrtho, fôr diddarfod,
Cysga'n dawel ar dy dywod.

Paid a grwgnach, bydd yn ddiddig,
Dyro ffrwyn yn mhen dy gesig;
A pha esgus i ti ffromi?
Nid oes gwynt yn mrig y llwyni:
Tyr'd â bâd fy ngŵr i'r diddos
Cyn cysgodion dwfn y ceunos.

Iawn i wraig yw teimlo pryder
Pan bo'i gŵr ar gefn y dyfnder;
Ond os cyffry dîg dy dònau,
Pwy a ddirnad ei theimladau?
O, bydd dirion wrth fy mhriod,—
Cysga'n dawel ar dy dywod.

Byddar ydwyt i fy ymbil,
Fồr didosturi dwfn dy grombil;
Trof at Un a all dy farchog,
Pan bo'th dònau yn gynddeiriog;
Cymmer Ef fy ngŵr i'w gysgod,
A gwna di'n dawel ar dy dywod.