Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MARWOLAETH YR ESGOB HEBER.

(Alun)

Lle treigla’r Caveri yn donnau tryloewon,
Rhwng glennydd lle chwardd y pomgranad a’r pîn
Lle tyfa perlysiau yn llwyni teleidion,
Lle distyll eu cangau y neithdar a’r gwîn;
Eisteddai Hindoo ar lawr i alaru,
Ei ddagrau yn llif dros ei riddiau melynddu,
A'i fron braidd rhy lawn i’w dafod lefaru,
Ymdorrai ei alaeth fel hyn dros ei fin:—

"Fy ngwlad! O fy ngwlad, lle gorwedd fy nhadau!
Ai mangre y nos fyddi byth fel yn awr?
Y Seren a dybiais oedd Seren y borau,
Ar nawn ei disgleirdeb a syrthiodd i lawr;
Y dwyrain a wenai, y tymor tywynnodd,
A godrau y cwmwl cadduglyd oreurodd,
Disgwyliais am haul—ond y Seren fachludodd
Cyn i mi weled ond cysgod y wawr.

"Gobeithiais cyn hyn buasai enw Duw Israel,
A’r aberth anfeidrol ar ael Calfari,
Yn destun pob cerddi o draeth Coromandel,
A chonglau Bengal hyd i eithaf Tickree;
Ac onid oedd Bramah yn crynu ar ei cherbyd,
Er y pryd y bu Swartz yn cyhoeddi fod bywyd
Yn angau y groes i Baganiaid dwyreinfyd?—
Pan gredodd fy nhad yr hyn ddysgodd i mi.

'Fy ngwlad! O fy ngwlad! bu ddrwg i ti'r diwrnod
'Raeth Heber o rwymau marwoldeb yn rhydd;
Y grechwen sy’n codi o demlau’r eulunod,
Ac uffern yn ateb y grechwen y sydd;
Juggernaut erch barotoa’i olwynion—
Olwynion a liwir gan gochwaed dy feibion—
Duodd y nos—ac i deulu Duw Sïon
Diflannodd pob gobaith am weled y dydd."

Yn araf, fy mrawd, paid, paid anobeithio,
Gwnai gam âg addewid gyfoethog yr IÔR:
A ddiffydd yr haul am i seren fachludo?
Os pallodd yr aber, a sychodd y môr?
Na, na, fe ddaw bore bydd un Haleluia,
Yn ennyn o’r Gauts hyd gopâu Himalaya, {104a}
Bydd baner yr Oen ar bob clogwyn yn India,
O aelgerth Cashgur hyd i garth Travancore.