Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni all haul er ymbelydru,
Na llawn lloer er ei hariannu,
Ac ni all yr awel dyner
Alw yn ol ei hen ireidd-der.

Blaguro ychydig oedd ei chyfran,
Rhoi un wên ar wyneb anian;
Llef o’r nef yn Hydref waedda—
Darfu’th waith,"—a hithau drenga.

Y MOR COCH.

(ALUN)

CHYHWYTHWCH yr udgyrn ar gopa Baalsephon,
Iehofa orchfygodd daeth ryddid i'r caethion;
Cenwch—ucheldrem y gelyn a dorwyd,
Carlamau'r gwyr meirch yn y tywod arafwyd;
Mor wag oedd eu bost, ni wnaeth Duw ond llefaru,
Dyna fyrdd yn y dòn yn gwingo ac yn trengu!
Cenwch yr udgyrn ar glogwyn Baalsephon,
Iehofa farchogodd ar war ei elynion!
Mawl, mawl i'r Gorchfygydd-Hosanna i'r Iôr,
Y gormes a gladdwyd yn meddrod y môr;
Ei air oedd y saeth a enillodd yr orchest,
Anadl ei ffroenau oedd cleddyf y goncwest,
Pwy ddychwel a'r newydd i'r Aipht am y nifer
A yrodd hi allan yn niwrnod ei balchder?
Edrychodd yr Arglwydd o le ei ogoniant,
A'i miloedd yn nhrochion y llif a suddasant!
Chwythwch yr udgyrn ar aelgerth Baalsephon,
Mae Israel yn rhydd a Pharao yn yr eigion.


MYFYRDOD AR EINIOES AC ANGAU.

[Cyfieithiad o Gray gan PARCH. D. DAVIES, Castellhywel, Ceredigion, gweinidog gyda'r Presbyteriaid. Bu yn cadw ysgol o fri am 65 mlynedd. Ganwyd ef yn 1745, ond ni chawsom ddyddiad ei farwolaeth. Yr oedd yn ddiguro fel cyfieithydd barddoniaeth.]

DACW ddolef y dyhudd-gloch,
Yn oer gan cnull y dydd
Dacw'r ychain gwâr lluddedig,
Yn dod adre' i fyn'd yn rhydd;
A'r llesg arddwr yn ymlusgo,
Ar eu hol o glun i glun;
Pawb, gan ado'r byd a'i ffwdan,
Ant i orphwys ond fy hun.