Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hyfryd liwiau'r bryniau a'r bronydd,
Gerddi a gweunydd gyll eu gwawr,
Prudd ddystawrwydd sy'n gyffredin,
Heb ddim lleisiau dros y llawr,
Oni chlywir ambell chwilen
Yn ehedeg heibio'n chwyrn,
A rhyw ddadwrdd pell o'r gorlan,
Gan y praidd yn curo eu cyrn.

Neu'r ddylluan, wrthi 'i hunan,
Yn llwyn iorwg pen y tŵr,
Wrth y lleuad wna achwyniad,
Wban irad oer ei stwr;
Ar rai eger ddelo'n agos,
At ei gwyrdd ddail, dawel dŷ,
I wneyd gormes ar un dalaith,
O'i llywodraeth helaeth hi.

Rhwng y llan a'r hen geubreni,
Hyd yr ywen ddulas draw,
Ffordd mae'n gymysg briddgoch grygiau,
A glas dwmpathau ar bob llaw;
'Mhob i 'stafell gul y dodwyd
Holl hen deidiau pobl y plwy',
Lle gorweddan' yn y graian,
Ni ddychwelan' yna mwy.

'Dall nac awel ben y bore,
Na gwaedd ceiliog uchel gân,
Na whit gwenol lon foreuol,
Yn y lwfer uwch y tân;
Na chorn helwyr, bloedd medelwyr,
Clych, taranau, daiar-gryn,
Byth ddihuno rhai mewn amdo,
Sy' yma heno'n drwm eu hun.

Trefnu'r bwthyn, 'sgubo'r aelwyd,
'Nynu tanllwyth goleu cry',
Ni wna'r wreigan mwy brydnawnau,
I roesaw tawel ŵr y tŷ;
Ei fabanod i'w gyfarfod,
Mwy ni redant yn gytun,
Mewn ymryson am ei gusan,
Mwy ni ymglyman' am ei glun.

Dan eu dwylaw grymus cwympai
Gwair y dolau, ac ŷd y maes,
Fel ymenyn rhwygai'r aradr,
Rhwng eu breichiau'r gwndwn glas;
Arf os coden', blodau'r coedydd,
Isel blygen' benau o'u blaen;
Ac mor ddifyr llon y canent,
Gynt par yrent ar y waun.