Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nac edryched pendefigion
Beilch a gwychion gyda gwawd,
Ar y swyddi a'r difyrwch,
Sydd mewn cyflwr isel, tlawd;
Ac na chwardded gwŷr uchelfrig,
Mawr, boneddig, gwych eu moes,
Mor anhyglod ac anhynod
Ydyw hanes fer eu hoes.

Beth yw mawr—fri uchel achau,
Rhwysg a mawredd bonedd byd?
Rhyw oferedd sâl disylwedd,
Gwynt a gwagedd oll i gyd,
Nad all estyn un fynydyn,
Ar eu heinioes hwy na'u hedd;
Holl ffyrdd llwyddiant a gogoniant
A ddybenant yn y bedd.

Feilchion, peidiwch, na chyfrifwch,
Ar y meirwon yma'n fai,
Am nas dyry coffadwriaeth
Feini mynor i'w coffhau,
O fewn eglwys fawr gadeiriawl,
Neu ryw gapel eurwych glân,
Lle mae'r organ gyda'r eur-gor.
Yn dyrchafu'r ddwyfol gân.

A all hanes o'u hen achau,
A'u llawn ddelw o wyngoch liw,
Gyda mawrglod uwch ei feddrod
Wneyd y marw mud yn fyw?
Pwy hyfrydwch all anrhydedd
Roddi i gelain oer o bridd,
Neu beroriaeth, twyll a gweniaith,
I fyddar-glust angau prudd?

Yn y graian yma gorwedd,
Fallai lawer fuasai lawn
O wir rywiog fflamau'r awen,
A phrydyddawl ddenawl ddawn;
Dwylaw all'sai lywio teyrnas,
A theyrnwialen ar ryw thrôn,
Dawn a dwylaw diwniai delyn,
I lesmeiriol dyner dôn.

Llyfr dysgeidiaeth a henafiaeth,
A naturiaeth môr a thir,
Nis darllenodd, nis agorodd,
Ac nis gwelodd un o'r gwŷr;
Gauaf gofid dros eu bywyd,
Lethai 'u hyspryd gwych i lawr,
Ac a rewai fywiol ffrydiau,
Swydd gyneddfau 'u henaid mawr.