ΑFONIG fechan, fywiog, fâd,
Pa le'r ai di?
Af adref, adref at fy nhad,
Môr, môr i mi.
Mae'r rhwystrau'n fawr, mae'r daith yn hir,
Mae'r ffordd trwy lawer diffaith dir,
Gwell iti oedi'r hynt yn wir,
O aros di.
Na, na, nid all nac anial maith,
Nac unrhyw fryn na bro ychwaith,
Fy rhwystro i gyrhaedd pen fy nhaith,
Môr, môr i mi.
Afonig fechan, aros, paid
A choledd twyll;
Fe all mai troi yn ol fydd raid,
O, cymer bwyll;
O'th flaen mae'r mynydd uchel serth,
Ei ddringo ef nis gall dy nerth,
I'r yrfa hon beth wyt o werth?
O, aros di;
Er mynydd mawr, ni lwfrhaf,
Can's ceisio dringo hwn ni wnaf,
Ond heibio iddo'n ddiddig af,
Môr, môr i mi.
Afonig fechan, yma'n awr
Da yw dy fod;
A pha'm y mae am gefnfor mawr
Dy ddyfal nod?
Mae'th eisiau ar y felin draw,
Ac ar y weithfa wlan gerllaw,
Cyd-ddeisyf wnant yn daer ddidaw,
O, aros di.
Gweinyddaf arnynt wrth fyn'd trwy,
Ac ar laweroedd gyda hwy,
Er hyn fy llef a fydd fwy, fwy,
Môr, môr i mi.