Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Afonig fechan, peraidd sawr
Sydd ar dy lan,
Ac mae'r planhigion gwyrdd eu gwawr,
Yn harddu'r fan;
Mae'r helyg ystwyth uwch dy dòn,
A'r blodau hoff o'th gylch yn llon,
Yn dweyd, gan bwyso ar dy fron,
O, aros di.
Cant fy nifyru ar fy nhaith,
Ond myned rhagof fydd fy ngwaith;
Nes myned adref, dyna'm hiaith,
Môr, môr i mi.

Afonig fechan, hardd i mi
Dy weld yn awr;
Ond beth a ddaw o honot ti
Mewn dyfnder mawr?
Mae'r eigion yn ddirgelwch prudd,
Dychryna rhag ei geudod cudd,
Ac na ddos iddo mor ddiludd,
O, aros di.
Gwir fod y dwfn yn ddyeithr wlad,
Ond hyn a wn, mae'n gartre 'nbad,
Caf fy nghroesawi yn ddifrad,
Môr, mor i mi.

AR LAN IORDDONEN DDOFN

[Gan y PARCH. EVAN Evans (Ieuan Glan Geirionydd), Trefriw, Offeiriad, 1795—1855]

AR lan Iorddonen ddofn
'R wy'n oedi'n nychlyd,
Gan flys myn'd trwy, ac ofn
Ei stormydd enbyd;
O na bai modd i mi
Ysgoi ei hymchwydd hi,
A hedfan uwch ei lli'
I'r Ganaan hyfryd.

Wrth weled grym ei dwr,
A'i thonog genlli',
A'r mynych rymus ŵr
A suddodd ynddi,—
Mae ofn ar f'enaid gwan
Mai boddi fydd fy rhan,
Cyn cyrhaedd tawel lan
Bro y goleuni.