Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bryn a phant, cwm a nant, lanwant a’u hoergri,
Traidd y floedd draw i g'oedd gymoedd Eryri:
Yr awr hon y mae llon galon hen Gymru,
Am fawr frêg ei meib teg, gwiwdeg, yn gwaedu:
Braw a brys sydd drwy lys parchus Caradog;
Gwaeddi mawr fyn’d i lawr flaenawr galluog;
Geilw ei Fardd am ei fwyn delyn i gwynfan,
Ac ar hon tery dôn hen "Forfa Rhuddlan."!

Af yn awr dros y llawr gwyrddwawr i chwilio:
Am у fan mae eu rhan farwol yn huno:
Ond y mawr Forfa maith yw eu llaith feddrod;
A'i wyrdd frwyn, a'r hesg lwyn, yw eu mwyn gofnod,
Ond caf draw, gerllaw'r Llan, drigfan uchelfaith
Ioan lân, hoffwr cân, diddan gydymaith;
Ac yn nhy'r Ficar fry, gan ei gu rian,
Llety caf, yno'r af o Forfa Rhuddlan.

DY EWYLLYS DI A WNELER

(GAN I. G. GEIRIONYDD)

BOED imi ddysgu'r wers a roes
Ein Harglwydd yn ei amser,
A dywedyd drwy boll droeau'r byd,
Ewyllys Duw a wneler.

Os gwgu wna rhagluniaeth ddoeth,
A dodi'm fawr gyfyngder,
Ymostwng wnaf i'r drefn, a dyweyd,
Ewyllys Duw a wneler.

Ac os i'r pair o berwydd pwys
Pechodau dwys, i'm tafler,
Er poethed fyddo, boed i'm ddweyd,
Ewyllys Duw a wneler.

Os daw cymylau a niwl i doi
Ei orsedd, fel nas gweler,
Ymddiried ynddo wnaf, a dweyd,
Ewyllys Duw a wneler.

Os daw y gwyntoedd o bob man
I chwythu a'u holl erwinder,
Goblygu 'mhen a wnaf, a dweyd,
Ewyllys Duw a wneler.