Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar wely cystudd, pan fo'r corph
Yn llawn o boen a blinder,
O’m calon dysger imi ddweyd,
Ewyllys Duw a wneler.

A phan yn hongian rhwng dau fyd,
Wrth ganu'n iach ag amser;
Fy ngeiriau olaf fydd yn floesg,
Ewyllys Duw a wneler.

YSGOLDY LLANRWST

(I. G. GEIRIONYDD )

Hoff rodfa fy mabolaeth,
Chwareule bore myd,
A wnaed, i mi yn anwyl,
Drwy lawer cwlwm Clyd;
Pa le mae'r si a'r dwndwr,
Gaed rhwng dy furiau gynt,
A'r plant o'th gylch yn chwareu
A'u hadsain yn y gwynt?

Mae anian o dy ddeutu
Mor bruddaidd ac mor drom,
Fel un f'ai cadw gwylnos
Uwch d'adail unig, lom;
Mae'r olwg arnat heddyw,
Gaed gyntmor dêg a'r sant,
Fel gweddw d'lawd, amddifad,
Yn wylo ar ol ei phlant.

Mae swn y gloch yn ddystaw,
Heb dorf yn d'od o'r dre',
A bolltau'th ddorau cedyrn,
Yn rhydu yn eu lle;
Ystlum a'u mud ehediad,
Sy'n gwau eu hwyrdrwm hynt
Lle pyngcid cerddi Homer
A Virgil geinber gynt.

Mae hirwellt bras anfaethlon,
Yn brith orchuddio gro,
Y llawnt bu 'r cylch a'r belen,
Yn treiglo yn eu tro;
Boed wyw y llaw a'th drawodd
A haint mor drwm a hyn,
Boed ddiblant a'th ddiblantodd,
A diffrwyth fel dy chwyn.

Pa le, pa fodd mae heddiw
Y lliaws yma fu
N cyd chwarae a chyd-ddysgu,
A chyd ymgomio’n gu?
Mae rhai mewn bedd yn huno,
Ar lleill ar led y byd,
Nad oes un gloch a ddichon
Eu galw heddiw ’nghyd.

Wyliedydd doeth a diwyd,
Os cwrddi at dy hynt
A rhai o'm cyd-sgolheigion
A'm chwaraeyddion gynt,
Dod fy ngwasanaeth atynt,
A dwed, er amled ton
Aeth drosof, na ddilewyd
Eu cof oddi ar fy mron.