Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Byth, byth, O Ryddid, na bo hûn,
Ar amrant y truenus ddyn,
Eill oddef trais a cham;
Ond iddo deimlo'r yspryd mawr,
I ymwroli megys cawr,
Wnaiff daro'r gormes-deyrn i lawr,
Wna'i lys, a'i sedd yn fflam !
Yn hytrach na gorthrymol Hedd,
Europa cwyd ! a thyn dy gledd,
Rho ormes yn ei dugoch fedd,
Byth, byth, o weled dydd.
Ac yna cwyd hyd fanau'r nef,
Dy lawen floedd fel taran gref,
Mewn cân a diolch iddo Ef,

TI WYDDOST BETH DDYWED FY NGHALON

(CEIRIOG)

[Achlysurwyd y penillion hyn gan eiriau ymadawol mam yr awdwr, pan oeddyn dychwelyd i Gymru, ar ol talu ymweliad ag ef.]

YN araf i safle'r gerbydres, gerllaw,
Y rhodia'i fy mam gyda'i phlentyn;
I waelod ei chalon disgynodd y braw
Pan welai y fan oedd raid cychwyn.
Ymwelwodd ei gwefus—ei llygaid droi 'n syn,
Rhy floesg oedd i roddi cynghorion;
Fe'i clywais er hyny yn sibrwd fel hyn—
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Canfyddodd fy llygad mewn dagrau 'n pruddhau,
Gwir ddelw o'i llygad ei hunan;
Hyn ydoedd am enyd fel yn ei boddhau,
Er nad fy nhristau oedd ei hamcan.
Ond er fod cyfyngder yr enyd yn gwneyd
Atalfa ar ffrwd o gysuron,
Mudanrwydd r'odd genad i'w hanadl ddweyd,—
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Nid son am gynllwynion y diafol a'i fryd,
Er enill ieuenctyd i'w afael—
Nid son am ffolineb a siomiant y byd,
Yr ydoedd pan oedd yn fy ngadael ;
Dymunai 'n ddiamheu bob lles ar fy nhaith,
Trwy fywyd i fyd yr ysprydion ;
Ond hyn oedd yr oll a ddiangodd mewn iaith—
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."