Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YMDAITH GWYR HARLECH

(CEIRIOG)

DACW goelcerth wen yn fflamio
A thafodau tân yn bloeddio
Ar i'r dewrion ddod i daro,
Unwaith eto'n un.
Gan fanllefau'r tywysogion,
Llais gelynion, trwst arfogion,
A charlamiad y marchogion,
Craig ar graig a grŷn.
Cwympa llawer llywydd,
Arfon byth ni orfydd,
Cyrff y gelyn wrth y cant,
Orphwysant yn y ffosydd.
Yn ngoleuni 'r goelcerth acw,
Tros wefusau Cymro 'n marw ,
Annibyniaeth sydd yn galw,
Am ei dewraf dyn!

Ni chaiff gelyn ladd ac ymlid,
Harlech! Harlech! cwyd i'w herlid!
Y mae Rhoddwr mawr ein Rhyddid,
Yn rhoi nerth i ni.
Wele Gymru a'i byddinoedd,
Yn ymdywallt o'r mynyddoedd,
Rhuthrant fel rhaiadrau dyfroedd,
Llamant fel y lli'!
Llwyddiant i'n lluyddion,
Rwystro fâr yr estron,
Gwybod yn ei galon gaiff,
Fel bratha cleddyf Brython .
Cledd yn erbyn cledd a chwery,
Dur yn erbyn dur a dery,
Wele faner Gwalia i fyny,
Rhyddid aiff â hi!


YN FOREU TYR'D I'R YSGOL SUL

(CEIRIOG)

OS wyt yn caru'th blant,
A thyner galon tad;
Os ewyllysi ar i Dduw
Barhau yn Dduw dy had;
O gwrando ar y llais
Sy'n galw yn ddidaw ,
Yn foreu tyr'd i'r Ysgol Sul,
A'r Beibl yn dy law.