Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Os wyt yn caru dyn ,
Os wyt yn teimlo sêl
Tros addysg a oleua'r ffordd
Yn mlaen i'r byd a ddel,—
Os credaist fod y bedd
Yn ddôr i fywy ddraw,
Yn foreu tyr'd i'r Ysgol Sul,
A'r Beibl yn dy law.

Os wyt yn caru Duw,
A'i achos yn y byd,—
Os hoffet weled dynolryw
Dan faner Crist ynghyd;
A gweled goleu wawr
Trwy wyll y byd a ddaw,
Yn foreu tyr'd i'r Ysgol Sul,
A'r Beibl yn dy law .

ABERTH CRIST.

[Gan y Parch . DAVID JONES, Caernarfon a Threborth , gweinidog gyda'r Methodistiaid , 1805–1868.]

O GARIAD! O gariad mor rhad!
O foroedd o gariad mor fawr!
Mab uniganedig y Tad
Ddisgynodd o'r nefoedd i lawr;
Cymerodd ei wneuthur yn gnawd,
Dynoliaeth a Duwdod yn un;
Bu farw ar groesbren dan wawd
Yn lle ei elynion ei hun!

Y Cariad tragwyddol yn Nuw
At ddynion mewn gwrthdro mor chwith,
O'r diwedd ddaeth atynt i fyw ,
Ymffurfiodd yn ddyn yn eu plith;
I ymweled a dynion y daeth,
Cydredai a dynion yn dlawd,
A rhoi ei ddynoliaeth a wnaeth
Dros ddynion i farw dan wawd.

Er gorthrwm triniaethau y byd
I gariad pan yma yn byw,
Arosodd yn gariad ohyd,
Heb oerni na newid ei ryw
Pob gwawda roid iddo gan ddyn
Yn gariad atebai y ffol;
Pob cernod roid iddo mewn gwŷn,
Ad-daro yn gariad wnai 'n ol.