Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pob archoll roi dynion i'w gnawd,
Dylifai yn gariad trwy ’r clwy';
Pan fwyaf ei glwyfau a'i wawd,
Gwnai cariad ddod allan fwy fwy;
Trwy ’r clwyfau, yn rhedeg ar frys,
Gwir ffrydiau o gariad a gaed;
Llifeiriai yn gariad drwy'r chwys,
A chariad a lifai drwy'r gwaed.



Creulondeb llid dynion at Grist
Droes cariad i ddynion yn hedd;
Ei ddirmyg gofidus a thrist
Droes cariad i ddynion yn wledd;
Yr angau ergydiodd y byd
At Iesu mewn dig a drwg wŷn,
Droes cariad yn ol yr un pryd,
Yn fywyd trag'wyddol i ddyn.

Tair afon digofaint fel un,
O uffern, y ddaiar, a'r nef,
Gyd-ruthrai ar Iesu ei hun,
Heb bleidiwr dan genllif mor gref;
Ond cariad ein Meichiau gras-lawn
A ddaliodd ryferthwy y lli';
A throes y tair afon mewn Iawn,
Yn ddyfroedd y bywyd i ni.

Yr aberth a laddwyd drwy frâd
Ar gopa Calfaria brydnawn,
Wnaeth gymod, boddlonodd y Tad,
A Hwn a osododd yn Iawn;
Trag'wyddol, annhraethol ei werth,
Ei urddas yw 'r Duwdod ei hun;
Nid gormod cael eithaf pob nerth
I'w ganmawl mewn caniad gytun.

O deffro fy enaid, mae'n bryd,
Ymnertha, anghofia dy boen;
Doed nerthoedd yr eglwys drwy'r byd
Ar egni i foli yr Oen;
Mae hyn yn rhy fychan i'r gwaith,
Rhy fychan o allu a dawn;
Rhy fychan yw geiriau pob iaith
I draethu teilyngdod yr Iawn.

Agorer geneuau yn llawn
I'r oll o'r mynyddoedd fel saint,
Rhoer iddynt synwyrau a dawn,
A lleisiau atebol i'w maint;