Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr Andes i gychwyn ygân,
Cyd-odlant drwy 'rddaiaryn llawn,
Y cyfan a'u nerthoedd yn dân,
I ddatgan rhinweddau yr Iawn.

Y tanllyd fynyddoedd trwy ' r côr
Fo 'n enyn a phoethi y gân,
Gan chwythu i fyny o'u stôr
Eu hylif yn foliant o dân;
A nerthoedd daiargryn at hyn,
Gynhyrfo bob elfen a dawn,
Nes rhoddi pob mynydd a bryn
I ddawnsio mewn canmawl yr Iawn.

Sancteiddier holl foroedd y byd,
Eu cynhwrf a'u rhuad didawl;
Gan daflu i'w glanau o hyd,
O'u heigion, wir dònau o fawl;
I ddafnau eu dyfroedd ar frys
Rhoer genau, synwyrau, a dawn,
I ddatgan cerdd beraidd ddilys
Am urddas anfeidrol yr Iawn.



Y nerthol daranau 'n gytun
Ganmolo yr aberth difai;
Pereiddier rhuadau pob un,
Heb wneuthur eu nerthoedd ddim llai;
Cydodlant a rhuad y gwynt
Am Grist a'r hedd-aberth a roes;
Fel udgyrn y Jubili gynt
Udganant yn Jubili 'r Groes.



Cysegrer pob cynhwrf trwy 'r byd,
Pob llafur a berw 'mhob oes;
Ymrodded y cyfan yn nghyd
I draethu gwerth angau y groes.
Cyduned pob llais dan y nef,
Holl dwrf yr elfenau 'n un côr,
I ffurfio un ganiad fwyn gref
Am aberth Crist Iesu ein Ior.



Boed lluoedd y bydoedd i gyd
Yn glychau o aur yn eu maint,
I weinni 'ngwyl cymod y byd,
Wrth odrau Offeiriad y saint;
A chanant a'u nerthoedd yn llawn,
Gwnaed gymod trag'wyddol â Duw:
Er marw i wneuthur yr Iawn,
Mae'n Haron ni eto yn fyw.