Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyduned holl nerthoedd pob byd,
I roddi i'r Prynwr ei hawl,
Nes llanwo eu hadsain o hyd
Y gwagle trag'wyddol â mawl;
A r gwagle 'n un môr o'u mawl fo,
A'i donau chwyddedig yn fyw,
Adluchio i olchi'n eu tro,
Holl lanau creadigaeth ein Duw.



Nid gormod cael egni pob dawn
I ddiolch am angau mor ddrud;
A chan mai dros ddyn rhoed yr Iawn,
A ddichon y dyn fod yn fud?
A edy i'r engyl y gân,
Ac yntau yn fudan o hyd?
A'r Iawn a ryfeddai 'r llu glân
Yn unig yw bywyd y byd.

Bechadur, ai tewi wyt ti
Am sylfaen dy fywyd dy hun?
A'r engyl am Iawn drosom ni,
Yn canu'n egniol bob un!
Er cymaint mae'r engyl difai
Yn synu at angau mor ddrud,
Nid ydyw eu syndod fawr lai
At ddyn sydd yn aros yn fud.

O deffro, i ganmawl yr Oen;
Pwy all fod mewn dyled mor fawr?
A chân nes anghofio dy boen,
Nac oeda, ond dechreu yn awr.
Mae moliant llu 'r nef yn rhy wan
I ateb i gariad Duw Iôr;
Dod gymhorth, a chana dy ran,
Chwanega at allu y côr.



O ddyn, paid a gwrthod yr hawl
O fod yn agosaf i'r Oen;
Ti ddylai fod uchaf dy fawl,
I'th brynu y bu yn ei boen!
Dy ddyled yw canu byth mwy,-
Pe tawai pob angel, cân di;
Gan ddeisyf eu cymhorth hwynt hwy,
I ddiolch am Brynwr i ni.

Wrth ganu dywedyd maent hwy
'Mae Iesu'n rhyfeddod i ni;'
Ond dyn sydd mewn modd i ddweyd mwy,
'Mae Iesu yn fywyd i mi;'