Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ENGLYNION I DEWI WYN

[Yr Englynion canlynol a gyfansoddwyd gan y PARCH. DAVID JONES, Caernarfon,
mewn canlyniad i'r Bardd Dewi Wyn fod yn ei dy, ac adrodd yr englyn canlynol, a
wnaethai iddo ei hun yn ei anhwyldeb.]

(ENGLYN DEWI WYN)

YS arweiniais, ar unwaith—oes Esau,
A Belsasar ddiffaith
Ac i Dernas cydymaith,—wyf hafal
I Saul a Nabal dan sel anobaith.

(YR ATEB)

DEWI WYN—Oh, Dewi anwyl!—cofiwch,
O'ch cyfwng diegwyl,
Gall Duw'n hawdd ladd gwyllt anhwyl,
A'r dasg yn awr yw dysgwyl.

I'r byw oll, er mor belled—eu gwibiau,
Mae gobaith ymwared;
Y gwan trist i Grist a gred,
Yn ei haeddiant gaiff nodded.

Dysgwyliwch â dwys galon—wrth rasol
Borth yr Iesu tirion;
Ceidwad rhad yw E 'r awr hon
I'r dyledog wir dlodion.

Yr Oen addfwyn yw'r noddfa,—i'r perwyl
Darparwyd ei laddfa;
Os dirfawr eich blinfawr bla,
Mae iechyd yn y Meichia'.

Gobeithiwch o'r llwch a'r llaid;—ein Ceidwad
Sy'n cadw pechaduriaid;
Cred yw'r oll, ond credu raid,
A gwaed yr Oen geidw'r enaid.

Os yn llwm, mae'r Iesu'n llawn;—os dyled,
Crist dalodd yn gyflawn:
Neu gofiwch bwyso'n gyfiawn
Warth yr oes wrth werth yr Iawn.

Mae Rheolwr eich mawr helynt—eto
Yn atal ei gorwynt;
Wrth fesur mae'n gyru'r gwynt,
I dirioni'r dwyrein-wynt.

Os y ffwrnais sy ffyrnig,—y perwyl
Yw puro yn unig:
Gras yw y dwym, nid gwres dig,
Iawn ei ddioddef yn ddiddig.