Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyn dechreuad y byd yma
Nid oedd dim ond Duw Gorucha';
Yn ol ei 'wyllys a'i weithredoedd,
Cyntaf peth fe wnaeth y nefoedd.

Ar ol gwneyd y nefoedd hawddgar,
Nesaf peth fe wnaeth y ddaiar;
Môr a thir oedd wrth ei feddwl,
A thywyllwch dros y cwbwl.

Ar ddydd Llun fe wnaeth yn eglur,
Haul, a lloer, a sêr, ac awyr;
Fel y gallai'r Brenin mawr-ddoeth
Weld ei waith yn eglur dranoeth.

Ar ddydd Mawrth fe wnaeth yn gynar,
Fôr a thir, a choedydd daiar,
A'r ffynonau dŵr trwy'r ceryg
I ddiodi pob sychedig.

Ar ddydd Mercher gwnaeth yn barod,
Bob rhyw adar, pob rhyw bysgod,
Trwy fôr a thir rhodd siars yn helaeth.
Amlhau y byd â phob rhywogaeth.

Ar ddydd Iau fe wnaeth 'nifeiliaid,
Mawr a bychain, gwyllt a dofiaid;
Ac archodd ef trwy lawn orchymyn,
Was'naethu'r byd bob rhyw o honyn'.

Ar ddydd Gwener fe wnaeth Adda,
O bridd a dŵr yn ddyn o'r glana',
A'i gymares, Efa dirion,
A wnaeth o'r asen nesa'i galon.

Ar ddydd Sadwrn fe fendigodd
Yr holl waith yr hwn a greodd;
A'r Seithfed dydd fe 'mrows i aros,
Yn ol ei waith ar hyd yr wythnos.

A'r Seithfed dydd 'fe orchymynwys
'Wasanaethu ef a myn'd i'r Eglwys;
Gan orphwyso a gweddïo,
Waith hwn yw'r dydd sydd raid ei gofio.

O saith ryw ddefnydd gwnaeth Duw Gristion,
Ar ei lun a'i ddelw'n gyson,
 'r rhai hyn chwi gewch eu clywed,—
O, na fyddwn byth mor falched.

O'r pridd y'th wnaed, ddyn peraidd purwyn,
O'r ceryg nadd y gwnaed dy esgyrn;
O'r môr dy waed, o'r haul dy galon,
O'r Yspryd Glân dy enaid gwirion.