O'r wybren las fe wnaed dy synwyr,
A'th ymadroddion mwynion eglur;
O'r gwynt dy anadl per ei 'roglau,
Pwy yw'r dyn a ddichon ammheu?
O'r pridd y'th wnaed, ddyn peraidd, heini,
Ac i'r pridd eto y dychweli;
Cais ymbar'toi, a gad dy faswedd,
Dyfal feddwl am dy ddiwedd.
Er maint yw'n beiau a'n holl frynti,
Er maint ein balchder a'n holl wegi,
Cyn y delo dydd ein diwedd,
Cymer arnom ni drugaredd.
Meddwl, ddyn, pan fyddost falchaf,
O ba beth y gwnaed di gyntaf;
Ac er maint dy wegi a'th faswedd,
Pa le yr äi di yn y diwedd.
Maddeu i bobl Llanymddyfri
Eu holl bechod a'u drygioni;
Eu camsynied a'u hoferedd,
Cymer arnynt hwy drugaredd.
Dyro i'w hathraw râd ac iechyd
I bregethu'r Efengyl hyfryd;
Llwydda'i waith o'th fawr drugaredd,
A dwg e' i'r nefoedd yn y diwedd.