Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni gawn seren i'n goleuo,
Ac yn serchog i'n cyf'rwyddo,
Nes y dyco hon ni'n gymhwys
I'r lle sanctaidd mae yn gorphwys.

Mae'r bugeiliaid wedi blaenu
Tua Bethl'em dan lonychu,
I gael gweld y grasol Frenin,—
Ceisiwn ninau bawb eu dilyn.

Fe aeth y doethion i gyflwyno,
Ac i roi anrhegion iddo,—
Aur, a thus, a myrr o'r gorau,
A'u hoffrymu ar eu gliniau.

Rhedwn ninau i'w gorddiwes,
I gael clywed rhan o'u cyffes;
Dysgwn ganddynt i gyflwyno,
A rhoi clod a moliant iddo.

Yn lle aur, rhown lwyr-gred ynddo;
Yn lle thus, rhown foliant iddo;
Yn lle myrr, rhown wir 'difeirwch,
Ac fe'i cymer trwy hyfrydwch.

Mae'r angelion yn llawenu,
Mae'r ffurfafen yn tywynu,
Mae llu'r nef yn canu hymnau,
Caned dynion rhywbeth hwythau.

Awn i weld yr Hen Ddihenydd,
Wnaeth y nef, y môr, a'r mynydd,
Alpha oediog, Tad goleuni,
Yn ddyn bychan newydd eni.

Awn i Fethl'em i gael gweled
Mair a Mab Duw ar ei harffed,
Mair yn dala rhwng ei dwylo,
Y Mab sy'n cadw'r byd rhag cwympo.

Awn i weled y Messias,
Prynwr cred, ein hedd, a'n hurddas;
Unig Geidwad ein heneidiau,
Ar fraich Mair yn sugno bronau.

Awn i wel'd ein Prynwr hoyw,
Sydd i farnu byw a meirw,
'R hwn a'n dwg i'r nefoedd dirion
Ar adenydd yr angelion.