BYR yw'n hoes ac ansertenol,
Heddyw'n fyw, yfory'n farwol;
Gynau'n gawr, yfory'n gelain
Dyma gyflwr dyn a'i ddamwain
Ni bydd yma, ar ben enyd,
Un o honom heb ei symud;
O meddyliwn am ein siwrnai
Heno ysgatfydd raid ei dechreu.
Fel y rhed yr haul i'r hwyr
Fel y treulia'r ganwyll gwyr,
Fel y syrthia'r rhosyn gwyn,
Fel y diffydd tarth ar lyn;
Felly treulia, felly rhed,
Felly derfydd pobol crêd,
Felly diffydd bywyd dyn,
Felly syrthiwn bob yr un
Fel saeth y rhed, fel post y gyr,
Fel cwyr y tawdd, fel iâ y tyr
Fel dail y syrth, fel gwellt y gwywa
Fel tarth y trig, fel lamp y treulia
Ni ddiflanwn fel y cysgod
Ni lwyr doddwn fel y mân-od
Ni ddiharddwn[1] fel glaswelltyn
Ni ddiffodwn fel yr ewyn
Ni cheir gweled mwy o'n hôl
Nag ol neidr ar y ddôl,
Neu ol llong aeth dros tonau,
Neu ol saeth mewn awyr deneu.
O! gan hyny, heddyw, heno,
Moeswch ini bawb ymg'weirio,
Fyn'd ar ffrwst a thynu oddiyma,
Lle na chawn o'r hir arosfa. ,
Mewn tai o glai yr y'm yn trigo,
Tymhest fach a bair eu syrthio; ,
Gwyliwn rhagi'rangau'n saethu,
A briwio 'r waltra fo'm yn cysgu.
Fel y t'rewir pysg a thryfer,
Fel y saethir pheasant tyner,
Fel y torir blodau'r ardd,
Fel y lleddir gweunydd hardd;
Felly t'rewir dyn heb wybod,
Felly saethir yn ddi-arfod,
Felly torir gwychder dyn, ,
Felly'n lleddir bob yr un. ,
Fel y cwymp holl ddail yr allt, .
Fel y cneifia gwellau'n gwallt, ,
Fel y gwywa lili'r maes, ,
Fel y tyr y gwydr glas;
Felly gwywa, felly tyr,
Felly cracia'n bywyd byr,
Felly cropir einioes dyn,
Felly cwympwn bob yr un.