Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Plyg dy ddeulin, côd dy ddwylo,
Dal yn graff dy lygad arno,
Cais ei rym, a'i ras, a'i oreu,
Yn mhob man tr'ech oddicartre.

Arfer ofni Duw a'i ganlyn,
Yn dy ie'nctyd tr'ech yn blentyn;
Felly byddi siwr mewn graddau,
Foli Duw yn hen-wr gartre.

Dos yn llawen at dy lyfyr,
Dysg yn glic ac na fydd segur;
Nid wy'n gwa'rdd er hyn it weithiau,
Chwareu peth tr'ech oddicartre.

Cyn b'och segur taro'r delyn,
Cân y Salmau sy'n ei chanlyn;
Fe fydd hyny'n hyfryd weithiau,
I Sam bach tra oddicartre.

Cân fel criced ar bob cam,
Gochel wylo am dy fam;
Duw fydd fam a thad o'r goreu
I Sam bach tra oddicartre.

Duw ro'i ras a'i fendith iti,
Duw'th gyf'rwyddo i'w addoli;
Duw fo'n Geidwad nos a bore
Ar Sam bach tra oddicartre.

Cod y bore gyda'r wawrddydd;
Am y cyntaf a'r uchedydd;
Hyn a'th helpa i gael hir iechyd,
Dysg a dawn a chyfoeth hefyd.

Gwisg yn esgud dy holl ddillad,
Dod y rhai'n yn gryno am danad,
Nad fod botwm heb ei gaued
Cyn y caffo neb dy weled.

Golch dy wyneb, crib dy ben,
A'th gwff yn lân, a'th fond[1] yn wen,
A'r oll o'th drwsiad yn dra threfnus;
O flaen Duw mae hyny'n weddus.

Wedi ymdrwsio, dos i'th weddi
Yn ddiaros, gochel oedi;
Cwymp o flaen Duw ar dy liniau,
Cyn y gwlychech di dy enau.

  1. Cadach gwddf