Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar dy liniau cod d'olygon
At У nefol Dad yn eon;
Ac na ofna ofyn iddo
Bobpeth ag sydd raid it wrtho.

Cais ei gymhorth, ac fe ddyry,
Galw arno, ac fe'th wrendy
Rho di ynddo dy ymddiried,
Ac fe'th geidw rhag pob niwed.

DEWIS GWRAIG

(YR HEN FICER)

NA chais wraig a gwaddol lawer,
Ac heb fedru trin ei phwer;
Mwg, a niwl, a llif yn treio,
Yw gwaddol mawr heb fedru 'i drinio.

Os bydd ond dwy it gael dy ddewis,
Un yn fras, a'r llall yn fedrus,
Gad i fyn'd y fras ddifeder,
Cais y fedrus a'th holl bwer.

Y ddoeth a'r dda a ddaw i ddigon,
O ddydd i ddydd hi wella ddynion;
Ni chwsg hi'r nos, ni phaid ei bysedd,
Nes cael cyfoeth ac anrhydedd.

Archoll calon, baich anesmwyth,
Defni dyfal, gwawd i'w thylwyth,
Iau yn gwasgu, sarph in prico,
Yw gwraig ddrwg, gwae'r gwr a'i caffo.

Gwraig rinweddol, hygar, hyfryd,
Sydd gan gwell na byd o olud;
Gwell na thir, na thai, na thrysawr,
Gwell na'r perl a'r meini gwerthfawr.

Llong yn llawn o werthfawr dlysau,
Perl a chan' mil o rinweddau,
Gem na fedr neb ei brisio,
Yw gwraig dda i'r sawl a'i caffo.

Piler aur mewn mortais arian,
Tŵr rhag angau i ddyn egwan,
Coron hardd, a rhan rhagorol,
Gras ar ras yw gwraig rinweddol.