Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GOCHELYD CWMNI DRWG

(FICER PRICHARD)

FEL, tâg y chwyn y gwenith,
Fel y sura fineg' lefrith,
Fel y 'nurdda pyg dy gadach,
Felly'th 'nafa drwg gyfeillach.

Gochel neidr rhag dy frathu,
Gochel blâ rhag dy ddyfethu,
Ac os ceri iachawdwriaeth,
Gochel ddilyn drwg gwmpnïaeth.

Dilyn brophwyd, fe'th oleua,
Dilyn athro, fe'th gyfrwydda,
Dilyn sant, fe'th wna di'n sanctaidd,
Dilyn ffol, ti fyddi ffiaidd.

Cymer lantern Duw'n dy law,
I'th oleuo yma a thraw;
Nid â neb i dir y bywyd,
Heb oleuni'r 'Sgrythyr hyfryd.

Ac os ceisi gael dyrchafiaeth,
Gras, a dawn, ac iachawdwriaeth;
Dewis ddilyn, cerdd heb golli
Y ffordd y dysgo'r Arglwydd iti.

Hi fydd cyfyng ar y dechreu,
A gwrth'nebus i'th drachwantau,
Ar y diwedd hi fydd esmwyth,
I'th ddwyn at Iesu yn ddisymwth.

Ffordd i ddistryw sydd yn wastad,
Ac yn esmwyth ei dechreuad;
Ond yn niwedd ffordd annuwiol
Y mae'r pwll a'r ffos uffernol.

Gwedi dechreu'r ffordd trwy rinwedd,
Myn ei ddilyn hyd y diwedd;
Ac na chynyg droi oddiarni,
Nes dy ddwyn i wlad goleuni.

Nid wyt nes er dechreu'r siwrnau,
A throi gwedi'n at dy feiau;
Nid oes bromais gael y goron
Heb barhau hyd angeu'n ffyddlon.