AM hyny pob creadur; wel torwch allan gân,
O'r mwyaf eu maintioli hyd at y lleiaf mân;
Cyhoeddwch gyda 'ch gilydd, yn llawen, nid yn drist,
Am glod didrai, diderfyn, a d'ioni Iesu Grist.
Chwi bryfed ef clodforwch, sy'n isel ar y llawr,
I lwch y ddaiar atoch daeth y Messiah mawr;
Ymlusgiaid, O, dyrchefwch soniarus gân o'r trwch,
Bu Iesu dri diwrnod yn gorwedd yn y llwch.
Chwi adar ar yr aden sy'n chwareu ar y pren,
Rhowch eich telynau'n barod o glod i Frenin nen;
Holl goedydd yr anialwch, O, curwch ddwylo'nghyd,
Rhyfeddod iddo farw ac e'n Greawdwr byd!
Anadled yr awelon, murmured pob rhyw nant,
Rhyw sŵn soniarus hyfryd fel bysedd byw ar dant;
I'r hwn ei hun sydd ffynon o ddwfr y bywyd pur,
Ac yn anadlu o'i Yspryd gysuron gloyw clir.
Fellt, fflamiwch ei anrhydedd, daranau, seiniwch chwi
Ei glod, tra fyddo'r moroedd yn rhuo maes ei fri;
Chwi ddefaid mân a geifr, cwblhewch yr anthem hyn,
Fel oen dan law y cneifiwr bu ar Galfaria fryn.
Ti ffynon y goleuni, ymgryma i lawr dy ben,
I haul mil mwy ei lewyrch, dysgleiriaf yn y nen;
Dwêd yn dy dro diderfyn am glod a mawl fath un
Sy a'i belydr cysurus yn goleuo enaid dyn.
Angylion, archangylion, cydfolwch iddo ef,
A dysgwch i'w glodfori ef hefyd nef y nef;
Chwi welsoch anfeidroldeb ei air a'i ryfedd rym,
Pan welsoch natur eang yn tarddu maes o ddim.
Mil mwy oedd eich rhyfeddod yn Gethsemane'n awr,
Wel'd chwys a gwaed yn ddafnau yn syrthio ar y llawr;
Pwys bai hiliogaeth Adda yn gwasgu lawr yn dụn,
Yr Hwn a rodd eich bywyd ryw oesoedd maith cyn hyn.
Ond dyn yn enwedigol, ïe, dyn dyrchafed lef
Mewn haleliwias dyblyg o'r ddaiar gron i'r nef;
Can's dros y dyn 'mestynodd ef ar y croesbren mawr,
A thros y dyn gorweddodd yn ngwaelod bedd i lawr.
Beth bynag y gwahaniaeth rhwng graddau yn y byd,
Can's lawn heb dderbyn wyneb oedd drosom ni i gyd;
Am hyn freninoedd cwympwch o'ch gorseddfeydd i lawr,
Sy'n ifori o'r druta', i addoli'r Brenin mawr.