HED fy enaid, c'od i fyny,
Ysgwyd sorod y carchardŷ
Daw rhai gwedi cael eu gwared
O gadwynau 'u holl gaethiwed;
Eu cnawd a'u esgyrn oll yn llechu
Yn y ddaear, eu hen lety:
Yn dawel'nghyd, heb drafferth byd,
Diffrwyth i'w deffro;
Ac i aros hyd nes delo
Sŵn yr udgorn i'w dihuno.
'Rwy'n dych'mygu gweld eu cefen,
Fry yn pasio heibio'r haulwen,
A phob un yn chwareu 'i aden,
Un yn ol y llall yn llawen,
Heibio'r ser o bob ryw raddau,
Gado'r lloer a'r holl blanedau,
Obry lawr, bellder mawr,
Aethus i synu,
Hwythau'n esgyn byth i fyny,
Yn yr eangder pur yn canu.
'Roedd angelion megys muriau
O bobtu'n gylch yn ol eu graddau,
Rhes'n ol rhes yn dysgu 'ynt gan
Newydd gainc i'r anwyl Iesu;
'N awr maent wedi dysgu eu gwala,
'Roeddent wedi dechreu yma,-
Gyda'r Oen, fyth heb boen
Yn ymddigryfu;
Blith dra-phlith â'r hardd gwmpeini
Ehedodd gyda hwynt i fyny.