Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwelaf rai o'n cyn-aelodau
Wedi dringo i fynu er's dyddiau,
Yn gwenu yn eu gwyneb hyfryd,
Pan ar drothwy drws y bywyd;
Dewch i mewn, a dewch heb'rofyn,
Dyma'r wledd o'ech yn ei 'mofyn;
Gwrthddrych eich cred, a'i freichiau ar led,
Canaid yn y canol,
Sy ar yr orsedd fawr drag'wyddol
Lle clyw'n e'n croesaw mewn ei bobl.

Mae 'u cadwynau wedi datod,
A'u caethiwed wedi darfod;
Eu cystuddiau, eu poen, a'u gofid,
Oll tu faes i borth y bywyd;
Nid aeth arf, na ffon, na chleddau,
Na dim afreolus nwydau,
Dros y mur grisial clir.
I sanctaidd dir Seion,
Na dim arall a dýr gyson
Heddwch di-drai'r pererinion.

O na chawn ni fyn'd fy hunan,
At y nefol gydsain gynghan,
A chael gwybod rhyw gwestiynau
Pa sut mae ar ben y siwrnai;
A oes llawer wedi blaenu
Fel mae dynion yn tebygu?
A oes llu dysglaer fry
O rif y tywod,
Mewn tangnefedd, wedi darfod
A chystuddiau 'u pererindod?

D'wedwch im, pwy olwg hyfryd
Sydd ar D'wysog mawr y bywyd?
A yw ôl yr hoelion ynd,
Yn ei draed ac yn ei ddwylo?
P'un ai cariad, ynte ofni,
Sy yno benaf yn teyrnasu?
Cariad mwy'n llosgi trwy
Eu calon'r wy'n credu;
Mae yno hefyd hyfryd ofni,
Ac anfeidrol faith ryfeddu.

A ydyw'n bleser gan angelion
Ganu anthem hyfryd Seion?
A yw angau'r croesbren poenus
I'r rhai safodd gynt yn felus?
Ai gwir bod yr angelion pena'
A'u sail ar gopa bryn Calfaria?
Yno'n cael, perffaith hael
Gadernid diffaelau,
Wedi eu c'lymu a'r holl seintiau
Yn yr un pen, yn yr un clwyfau?