Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A ydych chwi yn gwybod yna
Am ein gofid ni sydd yma?
Neu a fedrwch gydymdeimlo
A'r rhai hyn sy'n cael eu temtio?
A oes rhai oddiyna, weithiau,
Yn d'od yma ar negesau
Mawrion, maith, fel y daeth
Moses ac Eli,
Ar newidiad gwedd yr Iesu
Mewn gogoniant i ryfeddu?

Mae fy ffydd, neu mae'm dychymyg,
 Yn bryderus iawn, yn debyg,
Fod rhyw swn yn do'd i'm clustiau,
O'u dedwyddol faith ganiadau, –
Mae yn hedeg dros y bryniau
Ar adenydd awel denau,
Yn d'od a rhin, nefol win
I loni 'm blin enaid;
Ac yn rhoi rhyw hyfryd syched
Am fod yn eu gwledd fendiged.

Wrth fyfyrio ar eu rhoddion
Mae cenfigen yn fy nghalon,
Fod fy nghoelbren i heb symud
O wlad y gwae i dir y bywyd;
Deffro 'm ffydd, dos dros y bryniau,
Cymer ran o'u gwleddoedd hwythau;
Mae'n brydnawn diweddar iawn,
Buan cawn orphwys;
A rhoi'n beichiau lawr ac arllwys
Ein holl ofid yn Mharadwys.

PRIODAS ADDA AC EFA.

(WILLIAMS, PANTYCELYN.)

RHYW ddydd yn ddiarwybod fe gwympodd melus hûn,
Ar holl ysprydoedd Adda o ryw anfeidrol rin;
Nas gwyddai am dano 'i hunan, dychymyg oedd yn fyw,
Yn haeru bod hi'n gweled y cwbl wnelai Duw.

Ac yn ei gwsg tebygai ef weld y Crewr glân,
'R hwn oedd ag e'n ymddyddan yn hyfryd iawn o'r blaen;
Yn gwneuthur yn ei fynwes i mewn agored le,
Tu aswy law gyferbyn a gwraidd ei galon e.

Ac yna'n cym'ryd asgwrn â'i nefol law ei hun,
Ond un o ryw fenywaidd, a luniai megys dyn;
Ac wrth ei throi a'i thrafod hi aeth yn gig a gwaed,
Fe welai fywyd ynddi, hi safodd ar ei thraed.