Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O rosyn y gre'digaeth, O greadur teg ei phryd!
Ni fedd holl natur eang o'i mewn dy fath yn nghyd!
Ni all'sai neb dy wneuthur ond llaw nad oes o'i hail,
Yn harddach na'r saw) bioedd yr asgwrn oedd dy sail.

Ei lais hi a adnabu, a hi adnabu ei ddawn,
Mewn mawredd a myfyrdod fod e'n rhagori'n llawn;
Ac eto 'i gras cywilyddgar a'i rhinwedd yn ddiffael,
A fynai, nid heb rheswm, ei cheisio cyn ei chael.

Am hyn hi drodd ei chefn, rhyw gywilydd hardd sy'n bod
Yn natur gras perffeithiaf cyn cwympo o ddyn erioed;
Hi giliodd yn barchedig, yn araf ac yn dde,
Diniwaid, eto'n gwybod ar frys canlynai 'fe.

Fe wasgodd ati'n hyfryd ill dau yn ngolwg Duw,
Fe gludodd ar ei meddwl resymau o bob rhyw;
Hi a'u pwysodd, hi ystyriodd, o'i mewn enynodd tân,
Grym cariad a rhesymau goncwerodd Efa'n lân.

Hi ildiodd mewn anrhydedd, pa fodd y gallai lai?
Ei lle, hi wyddai'r awrhon, oedd hollol ufuddhau;
Ei Chrewr oedd ei rhoddwr, 'd oedd lle i ballu mwy,
Ac yn ei nefol fawredd efe a'u bendithiodd hwy.

TWYLL Y BYD

{{c|(WILLIAMS, PANTYCELYN)

MEGYS llestr hen a drylliog
Ydyw'r byd, ar fôr tymhestlog;
Pleser ydyw edrych arno,
Ond peryglus iawn bod ynddo!
Os daw un i maes o'r tonau
Ar ystyllen friwllyd deneu,
Fe glyw stŵr ar y dw'r
Dwndwr yr angau,
Draw yn mhell gan ryw fyrddiynau,
Aeth yn iach i'r llestr gynau.

Beth, raid cymaint poen a gofid
Wrth a bery ond awr o enyd?
A phe meddem aur yr India,
 erl Brazil, a sidan Persia,
Dyna'r man diwedda'n henw,-
"Pridd i'r pridd, a lludw i'r lludw;
Dyma fe, yn ei le
Gerwin yn gorwedd!
Dyma ei oed mewn byd o wagedd,
Diarwybod daeth ei ddiwedd.