Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Uffern gau ei hun sy'n gwenu
Fod plant Adda wedi ynfydu;
Casglu cyfoeth erbyn angau,
Ac euogrwydd mwy o bwysau;
Rhoi i briodas, adeiladu,
Noah'n gwneyd ei arch i fyny;
Twrio'r dòn, casglu hon,
Diluw bron dyfod!
Erbyn bod yr arch yn barod,
Gorfod gado sŵn y sorod.

A raid i'r henaint sydd yn darfod,
Ac yn hongian uwch y beddrod,
Fel hen goedydd yru eu gwreiddiau,
Ddyfnach, ddyfnach rhwng y creigiau?
Caru'r ddaiar yn anwylach
Fel b'ont ati'n mynd yn nesach?
Y dwylaw hyn, gweinion gwyn,
Crynion yn crynu,
Eto'n daer yn ymafaelu
Am yr hyn sydd yn eu nychu.

Rhwymo'r awyr lâs a'i gasglu,
Beth yw ceisio'r byd ond hyny?
Ychydig iawn ar ddyn sy'n eisiau,
A thros 'chydig o flynyddau.
Pwy mor gynted rhaid im'ado
'R lludw llwyd sy'n awr yn eiddo,
Yr hwn a gês er mawr llês
Gan anian tros enyd;
Pan galwo hi y mae'n rhaid symud,
A rhoi 'm lludw iddi hefyd.

Dyddiau mebyd sydd yn treulio
Cyn cael synwyr, a myn'd heibio;
A phan down i brisio amserau,
Prynu deall trwy brofiadau,
Dechreu caffael allwedd bywyd,
Dawn a rheswm, rhinwedd hefyd,
Yna mae angeu'n glau
Yn dadrys ei ddrysau,
Gwneuthur ffordd ddinâg, ddiammhau,
Fynd i mewn i'w ystafellau.

Pan bwy'n edrych ar rifedi
O flynyddau'n ol, i gyfri,
Nifer o ryw ffryns er's dyddiau,
O'r un oedran, o'r un graddau,
Cryfach nerth, a mwy seguryd,
Ie'ngach hefyd yn eu bywyd,
Carcus iawn, fore a nawn,
I achub llawn iechyd,
Hwythau'n gynta' wedi eu symud,
'Rwy'n rhyfeddu medda 'i fywyd.