Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BETH YW DYN I TI I'W GOFIO?

[Gan y PARCH. WM. REES, D.D., (Gwilym Hiraethog), gweinidog gyda'r Annibynwyr, 1802-1883.]

PAN edrychwyf ar dy nefoedd
Uchel, annherfynol draw,
A'r aneirif ffurfafenau
Grogaist yn eu bru uwchlaw:
Heuliau fyrdd, myrddiynau'n fflamio,
Ac yn tywallt gwres a dydd
Ar filiynau maith o fydoedd,
Yn grogedig ynddynt sydd:—

Beth yw dyn i ti i'w gofio?
Beth yw dyn? Jehofah mawr,
Pan feddylit ti am dano,
Bryfyn isel ar y llawr?
Beth yw'r ddaiar? Dim ond llwchyn,
Llai na dim yw dyn a'i fri;
Eto, rywfodd, dyn a daiar
Demtia i lawr dy sylw di!

Pan y gelwid yn y boreu
estr enwau ser y nen,
Deuent oll dan ganu a dawnsio,
Heibio i'r orseddfainc wen;
Yn ei thro yn mhlith y lliaws,
Ymddangosai'n daiâr ni-
Cododd gwrid i wyneb cariad
Dwyfol, pan y gwelodd hi.

CAU Y MOR A DORAU.

(GWILYM HIRAETHOG.)

Y RHUADWY fôr cynddeiriog
Drinit megys baban gwan,
Pan o groth y tryblith redai,
Gan ddyrchafu'i donau i'r lan;
Ar dy lin gorweddai'n dawel,
Rhoit y cwmwl iddo'n bais.
A'r tew niwl yn rhwymyn tyner
Am ei wasg heb unrhyw drais.

Gwenit dywod mân yn gadwyn
Am ei lwynau rhwth yn glyd;
Dodi'r lleuad fel llaw-forwyn,
Ufudd iawn i siglo'i gryd;