Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

D'wedit "Ust" yn nghlust y dymhestli,
Hi ddystawai-hunai ef,
Ar ei gefn, a'i wyneb gwastad,
Esmwyth, llydan, tua'r nef.

Weithiau gyru'r gwynt i'w ddeffro,
A deffroad ebrwydd bair—
Egyr ei amrantau mawrion,
Gan ymstwyrian wrth dy air;
Chwydda'i donau fel mynyddau,
Rhua megys taran fawr,
Hyrddia'i freichiau preiff, ac egyr
Anferth safn i lyncu'r llawr.

CYFARCHIAD I WENOL GYNTAF Y TYMMOR

(GWILYM HIRAETHOG)

WENOL fwyn, ti ddaethost eto,
I'n dwyn ar go' fod haf ar wawrio,
Wedi bod yn hir ymdeithio,
Croeso, croeso i ti;
Nid oes unrhyw berchen aden,
Fwy cariadus, na'r wenfolen,
Pawb o'th weled sydd yn llawen;
Ebe'r wenol—Twi, twi, twi.

Ha! mi wela'th fod yn chwilio
Am dy nyth, o dan ein bondo,
Y mae hwnw wedi syrthio,
Wenol, coelia di;
Nid myfi yn wir a'i tynodd,
Gwynt a gwlaw a gaua' a'i curodd,
Yntau o ddarn i ddarn a gwympodd:
Ebe'r wenol—Twi, twi, twi.

Wenol dirion, paid a digio,
Gelli wneyd un newydd eto;
A phe gallwn, gwnawn dy helpio-
Aros gyda ni:
Casglaf glai, cei dithau weithio,
A chymeraf ofal trosto,
Rhag i'r 'deryn tô ddod iddo:
Ebe'r wenol,—Twi, twi twi.

P'le gadewaist, wenol heini'
Dy gymdeithion, dorf aneiri',
Oedd y llynedd yn ein lloni
Yma gyda thi?