Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A fu'r oll o honynt feirw,
A'th adael di'n amddifad weddw?
Byddai hyny'n chwedl arw:
;Ebe'r wenol—Twi, twi, twi.

Wenol fach, paham diengi
Draw oddiwrthyf? paid ag ofni;
Aros, bydd yn gyfaill imi—
'Rwy'n dy garu di.
Credu'r wyf fod genyt galon
Bur, ddiniwed, gywir, ffyddlon—
Peth anfynych yn mhlith dynion:
Ebe'r wenol—Twi, twi, twi.

Llawer blinder chwerw brofais,
Er y tro o'r blaen y'th welais,
Wenol fwyn, a llawer gwynais,
P'odd ymd'rewaist ti?
A fyddwch chwi, wenoliaid, weithiau
Yn cyfarfod â blinderau,
Nes troi'ch twi, twi, twi,'n gwynfanau?
Ebe'r wenol—Twi, twi, twi.

Mi ddymunais, wenol lawen,
Ganwaith feddu ar dy aden,
I allu hedeg yn y wybren,
Uwch y byd a'i gri:
Ymryddhau oddiwrth helbulon
Bywyd dynol, a'i ofalon,
Ac fel tithau,'n iach fy nghalon,
Canu uwch eu pen—Twi, twi!

Mae 'th ddyfodiad, addfwyn wenol,
Ini'n dysgu gwersi buddiol,
Ar bob tymmor yn olynol,
Yr ymweli â ni.
Wyt yn adwaen dy dymmorau,
Ac yn cadw dy amserau"
Cym'rwch rybudd, gwnewch fel finau,"
Ydyw'r llais ym mhob twi, twi!

Dyna gamp a ddysgi eto—
Cadw 'th wisg yn lân a chrynno,
A thithau'n trin y clai a'i ddwbio,
Wrth it' wneyd dy waith.
Hoffwn innau ddysgu hòno—
Trin y byd, a myned trwyddo,
Heb halogi 'm gwisgoedd ynddo,
Na rhoi arno 'm calon chwaith.