PAHAM Y DIRMYGA YR ANNUWIOL DDUW?
(EBEN FARDD.)
O HAUL, mae dy begwn ar gylchdro trag'wyddɔl,
Yn saethu o'i amgylch oleuni a gwres,
Nes bod eu heffeithiau i bellder anfeidrol,
I w teimlo 'n wastadol er cysur a lles;
Ond ateb un holiad, O haul gogoneddus,
Neu ynte y bodau sydd ynot yn byw,
Mae daear a nefoedd yn gwrando 'n awyddus,
"Paham y dirmyga 'r annuwiol Dduw?"
A ddaeth ryw orchymyn o enau Jehofah,
Na chai yr annuwiol oddiwrthyt ddim lles?
A ydyw ei winllan, a'i faes mewn rhyw guddfa,
Heb wel'd dy oleuni na theimlo dy wres;
Ai hyn ydyw 'r achos sy 'n magu casineb?—
O dywed Lamp dysglaer, yn uchel i'n clyw;
Ai am nad yw'n gweled prydferthwch dy wyneb,
Y rhydd yr annuwiol ei ddirmyg ar Dduw?
Tydi, Loer arianaidd, hardd lygad yr wybren,
A gefaist ti archiad erioed gan dy Iôr,
I gau dy amrantau, neu wisgo ryw niwlen,
Yn ngwydd yr annuwiol ar dir ac ar fôr?
Ai cael o dy belydr ei lwyr amddifadu,
A cholli o'i olwg y man lle bo'n byw;
Ai cael y nos loergan yn wyll fel y fagddu,
A bar i'r annuwiol roi dirmyg ar Dduw?
Ti rew-wynt y gogledd, ti awel y deau,
A archodd eich Crewr i chwi ymgrynhoi,
A ffurfio yn golofn o gorwynt trwy'r creigiau,
I ddryllio'r annuwiol heb le iddo ffoi?
Ai am i'r fath gorwynt chwyrn—luchio'i feddianau,
A noethi sylfeini y tŷ lle mae 'n byw;
A throelli ei gadlas trwy 'r awyr fel brychau,
Y rhydd yr annuwiol ei ddirmyg ar Dduw?
Chwi uchel gymylau, dyfrlestri yr awyr,
Chwi ager—beirianau y nefoedd i gyd,
A oes i chwi archiad i beri ryw wewyr
Yn fwy i'r annuwiol na dyn yn y byd?
Ai tywallt o'ch crombil rhyw genllif ofnadwy!
O ddŵr ac o dan tra fyddo ef byw,
I ladd pob anifail o'i eiddo fo'n tramwy,
A bar i'r annuwiol roi dirmyg ar Dduw?
O ddaiar! O ddaiar! atolwg mynega
Paham y dirmyga'r annuwiol Dduw?
A oes rhyw orchymyn na ddygech ddim bara
I gynal ei deulu ac yntau yn fyw?