Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD

MAE gair neu ddau o eglurhad yn ddyledus i'r darllenydd am fy ngwaith yn ymgymeryd a chyhoeddi llyfr fel hwn. Arweiniwyd iddo gan yr hyn a ganlyn. Rhyw ddwy neu dair blynedd yn ol, casglodd fy nhad rai canoedd o emynau a chaneuon o'i eiddo, gyda bwriad i'w cyhoeddi yn llyfr. Wedi gwneyd hyn, cafodd fod llawer o honynt yn cael eu hawlio fel copyright gan hwn a'r llall ; parodd hyn iddo roddi y bwriad heibio, ac aeth cryn lafur yn ofer. Wrth edrych drwy y pentwr hwn, tarawodd i fy meddwl y buasai yn dda genyf pe buasai casgliad go helaeth o ganeuon goreu a mwyaf poblogaidd Cymru mewn cyfrol daclus wrth law; y cyfryw ag a fuasai yn enill ein bryd fel pobl ieuainc i'w darllen, yn gweini i ni ddifyrwch a budd; ac yn foddion dysgyblaeth i'n meddwl a'n calon. Y rhai goreu o'r fath y tarewais i wrthynt ydyw, Ceinion Awen y Cymry, gan Gwenffrwd; a'r Garnedd Arian, gan y Parch. T. Hughes. Cyhoeddodd Gwenffrwd ei lyfr yn 1831, pan nad oedd ond ugain oed. Y mae yn dda iawn, ac yn profi ei fod yn wir fardd; ond y mae y rhan fwyaf o hono yn y mesurau caethion, a'r mesur penrydd, ac y mae hyny yn tynu oddiwrth ei boblogrwydd, ac yn lleihau yn fawr nifer ei ddarllenwyr. Mae darn helaeth o'r Garnedd Arian yn dda, ond nid yw yn ddigon helaeth.

Mae yn y casgliad presenol gryn lawer o amrywiaeth o ddarnau poblogaidd ac anfarwol, na chollant byth eu swyn ar galon Cymro. Y mae yn glod i Gymru y gellir gwneyd casgliad mor helaeth o gyfansoddiadau mor rhagorol, mor fyw o'r wir awen, mor bur eu chwaeth, ac mor grefyddol eu hyspryd. Yr wyf dan rwymau arbenig i'r boneddigion oedd a hawl copyright yn llawer o honynt, ac yn dymuno eu