Tudalen:Casgliad o ganeuon Cymru.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cydnabod yn y modd mwyaf diolchgar, am eu parodrwydd yn caniatau i mi gopïo y darnau poblogaidd hyn, gan hyderu na wna blas y briwsion yma ond ein gyru i geisio y gweithiau llawn. Y mae fy niolch yn arbenig yn ddyledus i'r Parch. T. Gee, am eiddo Gwilym Hiraethog ; i Mri. Hughes, Wrexham, am eiddo Ceiriog, a Chantata y Plant; i Mr. G. Lewis, Penygroes, am eiddo Eben Fardd; i'r Parch. Ellis Edwards, M.A., am eiddo ei hybarch dad ; ac i'r Parchedig Batriarch, R. Parry (Gwalchmai); y Parch. D. C. Evans; i Mr. Wm. Hughes, Dolgellau, am eiddo Emrys; i Dyfed, Watkin Wyn, H. Brython Hughes, Elfed, Iolo Caernarfon, ac amryw eraill. Ac os dygwyddodd i mi osod rhai i mewn heb ofyn cenad, trwy amryfusedd, neu anwybodaeth at bwy i anfon, erfyniaf faddeuant am bob cyfryw esgeulusdod ac anwybodaeth.

Un gair arall; anturiais osod i mewn, fel Attodiad, nifer o ddarnau o eiddo fy nhad, allan o'r pentwr oedd ef wedi gasglu, gan osod y gwreiddiol a'r cyfieithiadau ar wahan.

Cyflwynaf y llyfryn hwn i ddwylaw fy nghyd-ieuenctyd, gan gredu fod yr oll sydd ynddo o duedd dda, heb ddim i lygru chwaeth, na moes, na chrefydd. Gobeithiaf y bydd yn rhyw gymaint o foddion i'n cadw i lynu wrth ein hen iaith anwyl, ac i ganfod ei rhagoriaethau. Gall y llyfr hefyd fod o wasanaeth i gyfarfodydd llenyddol ac adroddiadol. Odid nad oes aml i ddarn poblogaidd wedi ei adael allan, ag y buasai yn ddymunol ei fod i mewn. Os bydd cyfeillion mor garedig a'u hawgrymu, a'm hysbysu am awduriaeth y darnau sydd heb enwau awdwyr wrthynt, byddaf yn dra diolchgar. Ac os dygwydd fod galw am ail argraffiad, bydd yn bleser genyf wneyd y diffygion hyn i fyny.

T. A. LEVI. ABERYSTWYTH,

Ionawr, 1896.