Prawfddarllenwyd y dudalen hon
DOL YR ONNEN.
Ni flinaf edrych beunydd arnat ti,
Ddôl yr Onnen,
A dynnaist lawer gwaith fy meddwl i
O ryw donnen.
Mor dawel ac mor radlon yw dy bryd,
Haf a gaeaf!
Ar lawer awr à thi am ddedwydd fyd
Y chwedleuaf.
Wyt noddfa creaduriaid gwyllt eu byw,
Ddôl yr Onnen.
Yr ysgyfarnog ofnus, hoffed yw
O'th feillionnen!
I'r 'sguthan wyliadwrus glwysfa wyd,
Is y deri;
A hi'r foneddig goediar gâr y bwyd
A ddarperi.
Dwyshau mae lliwiau'r hydref ar dy goed-
Goch a melyn;
Ond glased ac ieuenged ag erioed
Yw dy gelyn.
I'th ddraenen hardd rhydd Mai aroglau drud
Ei ogoniant;
A minnau ddof (os byw) i'r encil clyd:
O, adloniant!