Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWENLLIAN LLWYN DU.

AR lechwedd wrth Graig y Gylfinir,
Uwchben yr Iwerydd a'i ru,
Yn syllu i'r pellder disgleirdon
Eisteddai Gwenllian Llwyn Du.
'Doedd neb yn ei thynnu i siarad.
Ni wyddai fod neb ar y bryn,
Ond siarad a wnai wrthi ei hunan
A'r tonnau a'r gwylain, fel hyn:—

"Mor fawr yw y môr cyfnewidiol!
Mor erwin! ac weithiau mor fwyn!
Ar brydiau mae'n erchyll a chreulon;
Ond rhyfedd o hyd yw ei swyn.
Peth od na bai Hywel mewn arswyd
Yn ffoi, ac yn byw ar y tir;
Ond camp i'r un dòn yw ei ddychryn,
A bydd yn llon gapten cyn hir.

Agerlong yw 'nacw: pa orchest
I neb sydd i'w gwneud ar ei bwrdd?
Llong hwyliau yw'r llall, ond mor lwydaidd!
Pa dynniad i neb fyn'd i'w chwrdd?
Glân—wynion yw hwyliau Jane Howard,'
A thlws yw ei dawns ar y dòn:
Gwyn fyd na ddoi hithau i'r golwg,
I lonni cudd donnau fy mron!

Mi wn, O for—donnau, beth ellwch:
Mi glywais beth all'soch cyn hyn.
Ni welais rai pell; ond 'rwy'n disgwyl
Y parchant hwy fywyd sydd wyn.
Mor hapus y'ch chwi, y gwylanod,
Cynefin â rhuthrau yr aig,
Yn hedeg mor hawdd o beryglon
A blinder i gryfder y graig!