Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Er gofyn o Hywel fy nheimlad,
A siarad ei serch mor ryw ffri,
Ddywedais i 'rioed mo fo nghalon,
Á dd'weda'i ddim chwaith, am wn i.
Mi garwn ei weled yn glanio,
A theimlo fy llaw yn ei law;
Os d'weda'i yr oll a ofynna,
'Rwy'n siwr y caf deimlad o fraw."


LLIWIAU'R HYDREF.

MOR brydferth ydych, liwiau'r hydref mwyn,
Uwchben y ddaear syn
Am egni fu a gofia mor ddi gŵyn
Cyn cwsg y gaeaf tynn!

Pob gwyrdd a melyn, pob rhyw goch a brych,
A wisg y dirif goed.
Pa ddistaw fedr yw hon all waith mor wych,
Na ddysgodd dyn erioed?

Mor berffaith yw'r gynghanedd rhwng y dail
A'r amryw goed o 'mlaen!
Pwy barodd iddynt fod bron bob yn ail,
Yn y fath gymhleth raen?

Lliw'r orens ar y deri sy'n dwyshau
Y gwyrdd o dano ef;
A thlws yw'r glâs eiddiorwg sy'n ymwau
Am ambell dderwen gref.

A duach lâs y celyn dlysa goch
A melyn bedw a chyll,
A thywyll gopr y drain, sy'n tybio broch
Nesâd y gaeaf hyll.