Ai lliwiau ynte cysgod cyll a drain
Y drofa glêd gerllaw
Sy'n cadw'r mwyeilch danynt ar y llain
I chwilio mor ddi fraw?
Melyngoch redyn byrr a dugoch rug
Llechweddau'r hen Gefn Du
A wnant i'r llawer clogwyn atynt blŷg
Fod fel meudwyon cu.
Paham mae pin y dlos Fron Goediog draw
Mewn melyn, gwyrdd, a glâs?
A beth yw'r du sy'n hanner cudd islaw?
Oes yno nwyd a gras?
O! dyner liwiau'r tawel, dawel goed,
Ai hyn ddywedwch im',
Na raid i fywyd er heneiddio'i oed
Fod heb ei harddwch ddim?
ANITA'R DDOL.
GWENI di, O fûn ddi fai,
'Run fath a Mai yn union;
Gwêna synwyr pur dy ben
Trwy loywaf lenni tlysion;
A gwêna'r serch o nefol nwyd
A gelwyd yn dy galon.
Ti fedri'n rhigil bedair iaith,
Ti fedri waith goleuni;
Ti fedri droi yn llon a rhydd
Werinol brudd gwmpeini;
A medri'n tynnu o bob man
I wanwyn pan y mynni.