"DYFNDER A EILW AR DDYFNDER."
Eis at Niagara fawr,
Mewn cwmni llon ei stŵr,
Bum yno lawer awr
Yn swn rhuadau'r dŵr;
A suddo wnai fy ysbryd ewn
Yn is, yn is o hyd o'm mewn,
Nas gwyddwn i paham;
A'm tynnu'n gêl ei gam
I ryw ddiwaelod gwm.
Ag wylo lond fy nghalon,
A wnai y mawredd trwm.
Mi fum, nas gwn ba hyd,
Wrth afon letach, hŵy—
Afon gofidiau'r byd,
A suddwn yno fwy.
Dyfnderoedd prudd fy nghalon ddwys
Ddeffroent ei gilydd dan y pwys
Yn sŵn rhaeadrau hon.
O'r nen daeth llais fel tòn,
"O, druan ger y lli,
Mor fechan yw dy galon!
Beth yw'th dosturi di?"
Rhaeadrau dirgel, pell
Cyfrinion distaw fyd,
Mi glywaf yn fy nghell
Eu swn o hyd, o hyd.
A dyfnder awydd f'enaid sydd
Yn galw meddwl, galw ffydd,
I ddysgu'r gyfrin iaith,
A dadrys ffug a ffaith.
O, leisiau'r dirgel dir!
A ddaw y dydd im' rywbryd
Eu clywed hwy'n fwy clir?