EDRYCH I FYNY.
(Ysgrifenwyd yn Album geneth 18 oed, orweddiog er yn blentyn.)
PAN deimli dy galon yn isel a gwan,
Pan deimli dy hoen yn pallu,
Cofia pa le mae dy nerth a dy ran:
Edrych, edrych i fyny.
Pan ddelo'r tywyllwch o'th gylch i ymgau,
A'r nos i roi taw ar dy ganu,
Dal i obeithio: mae'r wawr yn nesau:
Edrych, edrych i fyny."
Prudd, prudd yw caethiwed, a'r awydd yn gref
Am ryddid a gwaith; ond er hynny
Cystudd sydd fantais i weled y nef:
Edrych, edrych i fyny.
RHAID IDDO EF GYNYDDU.
'DOES neb a aiff yn uchel
Heb ganddo uchel nod;
'Does neb na ddarostyngir
A garo hunan-glod.
Mae Un, o edrych arno,
A'i ddilyn bob yr awr,
A'n tywys i uchelder,
Ac i ogoniant mawr.
A dyma iaith y Cristion,
Sy'n dilyn Iesu'n glau,
"Rhaid iddo Ef gynyddu,
A rhaid i mi leihau."