Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

FEL YR AWEL.

FEL yr awel nwyfus, dyner,
Ar ei neges fyth yn llon
Yn gwasgaru hadau mwynder,
Ac yn llonni llawer bron,
Felly 'roedd y feinir hon.

Fel yr awel bur yn gyrru
Niwl a tharth i'r gorwe! du,
Ac yn gloywi a phrydferthu
Bywyd ir tyfolion lu,
Felly Mair berorol gu.

Fel yr awel chwai yn deffro
Ysbryd gwaith ac ysbryd cân,—
Ysbryd gweithio rhydd di—gwyno,
Canu hoffa mawr a mân,
Felly 'roedd y feinir lân.

Fel yr awel yn distewi
Heb yn wybod bron i ni,
Ac yn myned draw i lonni
Eraill, yn ei thawel fri,
Felly'r ymadawodd hi.